Adra

Hafan | Partneriaid | Adra

Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru ydy Adra. Mae Adra yn rheoli dros 7,100 o gartrefi ledled gogledd Cymru ac yn cynnig Gwasanaethau i dros 16,000 o gwsmeriaid. Nod Adra yw darparu tai fforddiadwy a dibynadwy. Mae Tŷ Gwyrddfai yn chwarae rhan allweddol yn uchelgais Adra i ôl-osod cartrefi, gwella effeithlonrwydd ynni, a lleihau ôl-troed carbon.

Mae Tŷ Gwyrddfai hefyd yn gartref i dîm Trwsio Adra, sy’n cyflogi 400 o staff, ynghyd â depo Huws Gray ar y safle i ddarparu deunyddiau a chyflenwadau hanfodol ar gyfer atgyweirio, adnewyddu ac adeiladu cartrefi newydd. Mae hyn yn creu cysylltiad uniongyrchol rhwng arloesi, hyfforddiant a gweithredu ymarferol.

Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu cartrefi cynaliadwy, cymunedau cryf, a dyfodol mwy gwyrdd Gymru.

 

Academi Adra

Ers y ddwy flynedd diwethaf, mae Tŷ Gwyrddfai wedi bod yn ganolfan ar gyfer cyrsiau a rhaglenni datblygu Academi Adra. Mae’r Academi yn cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau newydd, ennill cymwysterau a magu hyder drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi a dysgu mewn amrywiaeth o feysydd sy’n cefnogi’r sector tai a chymunedau lleol. Trwy gydweithio â phartneriaid ac arbenigwyr y diwydiant, mae Academi Adra yn helpu i feithrin gweithlu medrus a chreu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Academi Adra