O Safle Diwydiannol i Ganolfan Arloesi Gwyrdd
Am flynyddoedd, roedd safle Penygroes yn gartref i Northwood Hygiene Products, gan gyflogi hyd at 100 o bobl leol cyn iddo gau ym mis Hydref 2020. Heddiw, mae’r safle’n cael ailfywyd fel Tŷ Gwyrddfai, canolfan hyfforddi ac arloesi sy’n arwain y ffordd tuag at ddyfodol gwyrddach.
Gyda chydweithrediad Welcome Furniture, mae Adra, Prifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a CIST wedi trawsnewid y safle i fod yn ganolfan flaengar ar gyfer hyfforddiant, cydweithio ac arddangos cynnyrch sy’n hanfodol i ddatgarboneiddio cartrefi. Mae Tŷ Gwyrddfai yn cynnig lle i osod a datblygu atebion sy’n lleihau allyriadau carbon, gan gyfrannu at fywyd cynaliadwy a chymunedau cryf.
Mae’r safle hefyd yn gartref i depo Huws Gray, sy’n cyflenwi Adra a’i gontractwyr gyda’r offer angenrheidiol i atgyweirio, adnewyddu ac adeiladu cartrefi newydd, gan gryfhau’r cysylltiad rhwng arloesi a gweithredu ymarferol.
Mae’r prosiect wedi derbyn £736,000 o gyllid Llywodraeth Cymru drwy raglenni Trawsnewid Trefi a’r Economi Gylchol, ynghyd â chyllid llwyddiannus o Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, a weinyddir gan Gyngor Gwynedd.
Mae Tŷ Gwyrddfai yn fwy na chanolfan, mae’n fuddsoddiad yn ein pobl, ein cymunedau, a’n planed. Bydd yn creu gweithlu medrus, cefnogi’r economi leol, a sicrhau bod y gwerth a gynhyrchir drwy ddatgarboneiddio yn aros yn lleol. Bydd ein cartrefi’n dod yn fwy ynni-effeithlon, gan leihau costau tanwydd ac ynni i’n tenantiaid a gwella ansawdd bywyd.
Mae’r cyffro’n amlwg, ymhlith partneriaid, busnesau lleol, ac ar draws y rhanbarth. Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu dyfodol gwyrddach, cryfach, a mwy cynaliadwy.
Pam Gwyrddfai?
Mae’r enw Gwyrddfai yn cyfuno dau air pwerus: Gwyrdd a Gwyrfai.
- Gwyrdd - symbol cryf o ofal am yr amgylchedd, yn adlewyrchu ein huchelgais i leihau ôl-troed carbon a hyrwyddo datgarboneiddio.
- Tŷ - wrth galon popeth a wnawn yn Adra, gan ein hatgoffa mai cartrefi yw’r sylfaen i gymunedau cryf a chynaliadwy.
- Gwyrfai - Afon ac ardal wledig yn Arfon ydy Gwyrfai. Bellach mae llwybr lleol o’r enw ‘Lôn Gwyrfai’ hefyd, sydd yn lwybr i bawb gael ei fwynhau ar droed neu ar feic yng nghanol golygefydd bendigedig ar ardal.
I greu enw ysbrydoledig, cyflwynwyd rhestr fer o syniadau i ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, gan staff Adra – gan roi cyfle i’r genhedlaeth nesaf gyfrannu at ddyfodol fwy gwyrdd.
Edrych i’r Dyfodol
Yn y tymor hir, bydd y datblygiad hwn yn creu gweithlu medrus a chymwys, gan gryfhau’r sector adeiladu lleol. Bydd y gwerth a gynhyrchir drwy ddatgarboneiddio a’r buddsoddiad cyfalaf sy’n gysylltiedig ag ef yn aros yn lleol – gan gefnogi ein heconomi a’n cymunedau.
Bydd y prosiect hefyd yn helpu i leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, gan wneud tai yn fwy ynni-effeithlon. Yn ei dro, bydd hyn yn lleihau effaith costau tanwydd ac ynni cynyddol, gan wella ansawdd bywyd ein tenantiaid.
Mae cyffro gwirioneddol ymhlith partneriaid a’r rhanbarth am y cyfleoedd y bydd y prosiect hwn yn eu cynnig – o werth cymdeithasol i effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol a’r economi leol.




