Cyfleuster Ymchwil a Datblygu
Hafan | Cyfleuster Ymchwil a Datblygu
Arwain Arloesedd mewn Tai Cynaliadwy
Mae ein cyfleuster ymchwil yn Nhŷ Gwyrddfai yn chwarae rhan allweddol yn siapio dyfodol cartrefi carbon isel a chymunedau cynaliadwy. Drwy ddatblygu a phrofi technolegau a deunyddiau newydd, rydym yn cefnogol iawn o'r trawsnewid i dai mwy ynni‑effeithlon ledled Cymru.
Mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, rydym yn cyfuno arbenigedd academaidd â phrofiad.
Mae hyn yn ein galluogi i:
- arbrofi gyda dulliau adeiladu Newydd
- treialu deunyddiau arloesol
- profi technolegau carbon isel mewn awyrgylch sy'n cael ei reoli.
Canolfan ar gyfer Cydweithio
Mae’n le i gontractwyr lleol, busnesau bach a chanolig, gweithgynhyrchwyr ac ymchwilwyr cael cydweithio. Drwy weithio gyda’i gilydd ar brosiectau go iawn, gallwn gael atebion ymarferol y gellir eu defnyddio ar draws y sector dai yn gynt.
Mae’r cyfleuster wedi’i gynllunio i efelychu amodau bywyd go iawn, gan ganiatáu profi cynnyrch mewnol ac allanol yn fanwl.
Mae hyn yn cynnwys ymchwil ar y cyd rhwng Adra a Phrifysgol Bangor, yn ogystal â phrofi masnachol ar gyfer partneriaid allanol.




