Prifysgol Bangor

Hafan | Partneriaid | Prifysgol Bangor

Mae Tŷ Gwyrddfai yn falch o gydweithio gyda Phrifysgol Bangor, sydd dim ond ychydig filltiroedd i ffwrdd, sydd yn golygu bod arbenigedd academaidd a chyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf ar garreg ein drws.

Mae’r brifysgol wedi creu labordy arloesol yn y ganolfan, lle mae ymchwilwyr yn profi deunyddiau adeiladu i sicrhau eu bod yn gryf, ynni-effeithlon ac yn barod ar gyfer hinsawdd y dyfodol.

Mae’r labordy yn gallu efelychu tywydd y dyfodol, gan roi cyfle unigryw i ddatblygu ddatrysiadau  adeiladu sy’n barod ar gyfer heriau newid hinsawdd. 

Mae hyn yn gam mawr ymlaen i ymchwil ac arloesi yng Nghymru.