CIST - Grŵp Llandrillo
Hafan | Partneriaid | CIST - Grŵp Llandrillo
Mae Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) gan Busnes@LlandrilloMenai yn bartner sy’n chwarae rhan allweddol yn Nhŷ Gwyrddfai drwy reoli’r podiau hyfforddi ar y safle. Maent yn darparu pecynnau hyfforddi pwrpasol ar gyfer datgarboneiddio a rhaglenni arbenigol ar gyfer y sector adeiladu, gan gynnwys:
- Inswleiddio waliau allanol
- Gosod a gwasanaethu paneli solar
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Ôl-osod (Retrofit)
- Batri i gadw egni
Yn ogystal, mae rhaglenni prentisiaeth ar gael i ddatblygu sgiliau’r gweithlu lleol.
Mae Hyfforddiant Net Sero Training Gwynedd hefyd yn darparu hyfforddiant blaengar yn Nhŷ Gwyrddfai, gan ganolbwyntio ar datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Mae’r hyfforddiant arbenigol hwn yn galluogi unigolion a busnesau i uwchsgilio mewn maes sy’n tyfu’n gyflym, gan gryfhau’r economi leol a chreu cyfleoedd newydd.
Gyda’n gilydd, mae’r partneriaid hyn yn sicrhau bod Tŷ Gwyrddfai yn ganolfan arloesi, sgiliau a chynaliadwyedd, yn adeiladu gweithlu medrus ar gyfer dyfodol gwyrddach.



