Sgiliau ar gyfer y Dyfodol
Hafan | Newyddion | Newyddion Diweddaraf | Sgiliau ar gyfer y Dyfodol
Adeiladu Sgiliau ar gyfer y Dyfodol: Grŵp KMT yn Nhŷ Gwyrddfai
Mae Grŵp KMT yn frwd dros ddatblygu eu tîm ac wedi bod yn ymwelydd cyson gyda Thŷ Gwyrddfai. Maent yn gontractwr trydanol a mecanyddol sy’n gwasanaethu gogledd Cymru a thu hwnt, yn arbenigo mewn gosod a chynnal a chadw gwaith trydanol, digidol, plymio ac ynni adnewyddadwy.
“Rydym wedi ymrwymo i wella sgiliau ein tîm fel y gallwn ddarparu’r gwasanaeth o’r safon uchaf a bod yn flaengar o ran datblygiadau technolegol. Mae Tŷ Gwyrddfai yn ganolfan hyfforddiant ddelfrydol i ni, yn darparu mynediad at gyrsiau o safon uchel, berthnasol heb yr angen i deithio ymhell.
Mae ein staff wedi cwblhau ystod eang o hyfforddiant yn barod, gan gynnwys CPD gydag Alco ar ddatrysiadau diogelwch diweddaraf y diwydiant, yn ogystal â chyrsiau Gweithio ar Uchder a Chodi a Chario yn Nhŷ Gwyrddfai gyda Grŵp Llandrillo Menai. Rwyf hefyd wedi mynychu cwrs Tendra o’r blaen. Roedd y cwrs hwnnw o gymorth i mi gyda gwaith papur a chael hyder wrth gyflwyno bidiau am waith.
Gan edrych ymlaen, rydym yn gobeithio cymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi pellach, gan gynnwys cyrsiau gyda Nuaire ar eu systemau awyru. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at fynychu’r digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr sy’n cael eu cynnal yn fuan i ddysgu am gyfleoedd caffael yn y dyfodol a dod i gysylltiad gyda phenderfynwyr.
- Tom Williams, Cyfarwyddwr

