Helpu busnesau adeiladu lleol

Hafan | Newyddion | Newyddion Diweddaraf | Helpu busnesau adeiladu lleol

Tendra, menter newydd sydd wedi'i chreu i helpu busnesau adeiladu lleol i ddatblygu eu sgiliau, magu hyder a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Rydym yn falch o lansio Tendra, menter newydd sydd wedi'i chreu i helpu busnesau adeiladu lleol i ddatblygu eu sgiliau, magu hyder a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Mae'r rhaglen wedi ariannu drwy Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru, bydd Tendra yn cynnig cefnogaeth ac hyfforddiant ymarferol i helpu busnesau i gryfhau eu gallu, datblygu eu gweithlu a pharatoi ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol gyda Adra a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

Rydym yn gwybod y gall gwneud cais am gytundebau deimlo'n heriol weithiau, yn enwedig i fusnesau llai. Mae'r gwaith papur, y prosesau a'r gofynion sy'n gysylltiedig â thendrau yn gallu bod yn rhwystr. Dyna pam rydym wedi creu Tendra, gyda nod syml: Adeiladu'r dyfodol, un tendr ar y tro.

Drwy weithdai ymarferol a chefnogaeth arbenigol, byddwn yn helpu busnesau i ddeall y broses dendro, datblygu eu sgiliau a chynyddu eu hyder wrth wneud cais am waith newydd, gan gynnwys contractau mwy drwy lwyfannau fel GwerthwchiGymru.

 

Gweithdai am ddim drwy gydol 2026

Bydd Tendra yn cynnig cyfres o weithdai am ddim ar bynciau gan gynnwys:

  • Deall gweithdrefnau tendro Adra
  • Prisio prosiectau'n effeithiol
  • Sicrhau achrediadau perthnasol
  • Iechyd a diogelwch
  • Deall gwerth cymdeithasol
  • Defnyddio AI i gryfhau cyflwyniadau tendro
  • Cyflwyniad i Sero Net a chynllunio lleihau carbon

Bydd y sesiynau'n ymarferol, yn hygyrch ac wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer busnesau adeiladu bach sydd eisiau tyfu a sicrhau mwy o waith.

Cefnogi busnesau lleol i lwyddo

Dywedodd Rhys Roberts, Rheolwr Busnes a Datblygu Tŷ Gwyrddfai:

"Rydym wrth ein bodd yn lansio Tendra a chefnogi busnesau adeiladu lleol i dyfu a llwyddo.  Ein nod yw gwneud y broses tendro yn fwy hygyrch drwy ddarparu cefnogaeth ymarferol, cyngor clir a'r hyder sydd ei angen ar fusnesau i fynd ar ôl cyfleoedd newydd.  Yn ogystal â'r hyfforddiant, byddwn yn helpu busnesau i gael mynediad at adnoddau gwerthfawr a meithrin cysylltiadau newydd a all gefnogi eu llwyddiant hir-dymor.  Drwy helpu fusnesau lleol i sicrhau mwy o waith, rydym yn cadw buddsoddiad yn ein cymunedau, yn cefnogi swyddi lleol ac yn cyfrannu at gryfhau'r Gymraeg a'n diwylliant."

Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr

Bydd y rhaglen yn gorffen gyda digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr, gan ddod â chymdeithasau tai a sefydliadau eraill yn y sector adeiladu ynghyd i rannu gwybodaeth am brosiectau a chyfleoedd contractio dros y 12 mis nesaf.

Cofrestrwch eich diddordeb

Os ydych yn rhedeg busnes adeiladu ac eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf am weithdai a digwyddiadau Tendra, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

📧 info@tygwyrddfai.cymru

 

Cofrestrwch yma

Pob Newyddion