Cryfhau Sgiliau Lleol

Hafan | Newyddion | Newyddion Diweddaraf | Cryfhau Sgiliau Lleol

Cryfhau Sgiliau Lleol: Partneriaeth M Wynn Plumbing Cyf gyda Thŷ Gwyrddfai

Sefydlwyd yn 2010, mae M Wynn Plumbing yn arbenigo mewn holl agweddau o blymio, gan gynnwys gosod, cynnal a chadw, a thrwsio systemau plymio a gwresogi.

Mae’r perchennog Mark Wynn Williams wedi gwneud defnydd helaeth o’r cyfleoedd hyfforddi ar gael yn Nhŷ Gwyrddfai i uwchsgilio ar draws ystod eang o gyrsiau. Fel busnes bach yn gweithredu ar draws Gwynedd, Ynys Môn, a thu hwnt, mae cadw mewn cysylltiad gyda’r technolegau a systemau diweddaraf yn hanfodol i’w waith.

Eglura Mark: “Rwyf wedi mynychu Tŷ Gwyrddfai sawl gwaith i gwblhau hyfforddiant amrywiol. Rwyf yn byw mewn tref fechan yn Llŷn yng Ngwynedd, felly mae cael yr hwb yn agos, gyda’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ei angen yn y sector tai heddiw yn hanfodol i’m busnes.

m wynn plumbing logo

Drwy bartneriaid Tŷ Gwyrddai, CIST a busnes@llandrillo, rwyf hefyd wedi cwblhau hyfforddiant mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Dŵr Poeth Thermol, Systemau Ynni Effeithlon ar gyfer Gwresogi Domestig, yn ogystal â chwrs i wella fy nealltwriaeth o  Bympiau Gwres Ffynhonnell Aer, o’r ddaear a Dylunio.

Yn fwy diweddar, rwyf wedi mynychu hyfforddiant magu hyder wrth ddelio gyda’r cyfryngau i helpu i wella a hybu busnes ar-lein.

Mae Mark wedi graddio o’r rhaglen Tendra, cynllun a oedd wedi’i gynllunio i helpu busnesau bach i dyfu a ffynnu.

Bydd yn mynychu ein digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr ym mis Mawrth.

I gofrestru, cliciwch ar y linc isod. (linc i ddilyn...)

  • dyn yn sefyll o flaen posteri ty gwyrddfai
  • cot rygby wedi'i noddi gan fy m wynn plymio

Pob Newyddion