Adeiladu Sgiliau

Hafan | Newyddion | Newyddion Diweddaraf | Adeiladu Sgiliau

Adeiladu Sgiliau ar gyfer Adeiladau Gwell: Anthony Roberts Contractwr Adeiladu yn Nhŷ Gwyrddfai

Mae Anthony Roberts Contractwr Adeiladu yn arbenigo mewn adeiladu o’r newydd a phob elfen o waith adeiladu, gan gynnwys estyniadau, adnewyddu ac adfer.

Mae’r contractwr adeiladu yn gweithio ar hyn o bryd ar brosiect lle mae angen iddo osod system webertherm XM. Bydd plastrwr (applicator) cymeradwy yn gwneud y gwaith rendro ond Anthony a’i dîm fydd yn gyfrifol am osod y byrddau inswleiddio. I sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau i’r safon uchaf, mae Anthony wedi dewis mynd ar gwrs i ddod i wybod mwy am y system.

Mae Hwb Tŷ Gwyrddfai yn darparu amgylchedd wedi’i reoli gyda chyfleusterau penodol ar gyfer y math yma o hyfforddiant arbenigol. Wedi’i leoli ym Machynlleth, dewisodd Anthony ddod i Dŷ Gwyrddfai gan mai dyma oedd y lleoliad hyfforddiant agosaf a mwyaf addas.

Cafodd yr hyfforddiant ei roi gan Stuart Owen, Rheolwr Gosod yn Saint-Gobain Exterior Solutions, fel rhan o’r cwrs webertherm XM Inswleiddio Wal Allanol (EWI). Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar sut i  osod y system yn iawn ac yn cynnig trosolwg manwl o osod EWI o’r dechrau i’r diwedd. 

Mae cwrs fel arfer yn cynnwys:

  • Beth yw EWI a pham bod ei angen
  • Egluro’r system a chydrannau
  • Gofynion Paratoi
  • Ymarferol: Gosod byrddau
  • Ymarferol: Sylfaen rendrad
  • Ymarferol: Gorffeniadau
  • Manylder Ychwanegol

“Roedd hwn yn gyfle gwych i ddatblygu gwybodaeth ymarferol a theori ar systemau Saint-Gobain ar gyfer eiddo retroffit, gan gynnwys Inswleiddio Wal Allanol (EWI). Gan roi tawelwch meddwl i ni yn gwybod bod y system wedi’i osod yn gywir. Rydym yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i Dŷ Gwyrddfai am fwy o hyfforddiant yn y dyfodol”

Anthony Roberts – Perchennog

Mae Anthony hefyd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr sy’n cael eu  cynnal yn fuan i gael gwybod am y cyfleoedd newydd yn y sector tai. I gael gwybod mwy am y digwyddiadau yma a chyfleoedd hyfforddi eraill sydd wedi’u hariannu yn llawn, cliciwch ar y lincs isod (lincs i ddilyn...)

  • dyn yn rhoi cyflwyniad i ddosbarth
  • 2 dyn yn teilio wal

Pob Newyddion