Adra a Duracell Energy

Hafan | Newyddion | Newyddion Diweddaraf | Adra a Duracell Energy

Adra a Duracell Energy

Adra a Duracell Energy mewn partneriaeth i gefnogi datblygu sgiliau ynni adnewyddadwy yn Nhŷ Gwyrddfai

Mae Puredrive Energy, y deiliad trwydded a'r gwneuthurwr awdurdodedig ar gyfer cynhyrchion storio batri cartref Duracell Energy, yn gweithio mewn partneriaeth a ni i gefnogi datblygu sgiliau ynni adnewyddadwy drwy sefydlu adnodd hyfforddi newydd yma yn Nhŷ Gwyrddfai. 

Fel rhan o'r bartneriaeth, mae Duracell Energy wedi darparu system ynni adnewyddadwy gwbl weithredol a fydd yn cael ei defnyddio fel adnodd hyfforddi ymarferol i ddysgwyr, prentisiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sy'n datblygu sgiliau mewn technolegau carbon isel.

Gosodwyd system fatri Duracell Energy fel rhan o ddigwyddiad lansio diweddar yn Tŷ Gwyrddfai, a fynychwyd gan gynrychiolwyr o Adra a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro dros Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gymraeg.

Mae sefydlu'r adnodd yn cefnogi datblygu gweithlu medrus sydd ei angen i gyflawni uchelgeisiau sero net Cymru. Drwy ddarparu mynediad at dechnoleg ynni adnewyddadwy go iawn, bydd dysgwyr yn dod i ddeall sut i ddylunio systemau yn well, egwyddorion gosod a'r rôl y mae batris yn ei chwarae mewn cartrefi carbon isel modern.

Mae'r bartneriaeth wedi cael ei sefydlu wrth i'r galw am weithwyr proffesiynol medrus barhau i dyfu ar draws y sectorau ynni adnewyddadwy ac ôl-osod, wedi'i yrru gan fuddsoddiad cynyddol mewn datgarboneiddio cartrefi, gwelliannau effeithlonrwydd ynni a thai cynaliadwy.

Dywedodd Mark Millar, Prif Swyddog Gweithredol Puredrive Energy, trwyddedai awdurdodedig Duracell:

"Mae Tŷ Gwyrddfai yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r trawsnewid ynni yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag Adra i ddarparu system ynni adnewyddadwy fyw sy'n rhoi cyfle uniongyrchol i ddysgwyr i weld y technolegau y byddant yn dod ar eu traws yn y maes.

Mae llwyddiant uchelgeisiau datgarboneiddio'r DU yn dibynnu ar gael gweithlu medrus sy'n hyderus yn gosod a gweithio gyda systemau ynni adnewyddadwy. Mae'r bartneriaeth hon yn caniatáu i ni gyfrannu at y nod hwnnw wrth gefnogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y diwydiant."

Dywedodd Siôn Hughes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyflawni Adra:

"Sefydlwyd Tŷ Gwyrddfai i helpu i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy. Mae gweithio gyda Duracell Energy yn gwella'r cyfleoedd hyfforddi ymarferol sydd ar gael yn y ganolfan ac yn rhoi mynediad i ddysgwyr at dechnoleg ynni adnewyddadwy sy'n arwain y diwydiant.

Mae partneriaethau fel hyn yn helpu i sicrhau bod gan bobl a busnesau lleol yr arbenigedd sydd ei angen i gefnogi taith datgarboneiddio Cymru wrth greu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr ar draws y rhanbarth."

Drwy’r bartneriaeth yma mi fyddwn yn helpu i gryfhau’r cyflenwad o weithwyr proffesiynol yn y maes, drwy ddod ac arbenigedd yn y diwydiant ag lleoliad hyfforddi pwrpasol yn Nhŷ Gwyrddfai.

Pob Newyddion